|
GAIR AMDANOM NI
Sefydlwyd Grwp Gwyliau Fferm a Chefn Gwlad Sir Gaerfyrddin ym 1994 fel
grwp hunangymorth i hyrwyddo ein busnesau unigol ac i’n cefnogi’n
gilydd wrth farchnata a thrwy gynnig cyngor.
Mae ein haelodau’n cynnig nifer o gyfleusterau yn cynnwys Gwely
a Brecwast, bythynnod hunanarlwyo a meysydd gwersylla/carafanio.
Mae cefn gwlad yn agos at galon y Grwp Gwyliau Fferm a Chefn Gwlad a safonau
yn uchel yn eu meddwl.
Rydym yn helpu ymwelwyr i brofi diwylliant yr ardal ac yn cyfleu ymdeimlad
o le iddynt. Mae'r grwp yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn defnyddio
ac yn hyrwyddo cynnyrch lleol os oes modd, gan ddweud wrth ymwelwyr lle
gallant ei brynu.
Mae ein haelodau wedi ennill gwobrau am gynnyrch, brecwastau, Gwraig Ffarm
y Flwyddyn, Lletywraig y Flwyddyn, gosod blodau a llawer o wobrau am dda
byw a chnydau.
O blasty gwledig i fferm weithiol, mae pob aelod yn cynnig blas ar gefn
gwlad i ymwelwyr mewn amgylchoedd hardd a fydd yn siwr o’u plesio.
Efallai y byddwch yn aros yn uchel yn y bryniau, ar lan afon neu i lawr
lôn fach wledig - un peth sy’n sicr, mae naws arbennig i bob
un ohonynt.
Dewch i fwynhau Sir Gâr Gardd Cymru.
|