CAMAU - SUT I GADW LLE
1

Cysylltwch â’r fferm o’ch dewis yn uniongyrchol trwy ffonio, ffacsio neu e-bostio. Os byddwch yn ffonio, gadewch i’r ffôn ganu am dipyn neu gadewch neges. Byddant yn eich ffonio nôl cyn gynted ag y gallant – anaml iawn y mae ffermwyr o fewn cyrraedd i’r ffôn. Os cewch drafferth i gysylltu ag aelod, ffoniwch ysgrifennydd y grwp ar +44 (0) 1267 290455.

2
Dywedwch wrthym sut y clywsoch amdanom ni.
3
Pan fyddwch yn trefnu dyddiadau’ch gwyliau, dywedwch faint o’r gloch y byddwch yn disgwyl cyrraedd.
4
Fel rheol, gofynnir i chi gadarnhau trwy roi blaendal â siec neu rif cerdyn credyd - holwch wrth drefnu gyda'r fferm unigol.
Sylwch
Bydd aelodau’r grwp yn barod iawn i roi enw aelod arall i chi os nad oes ganddyn nhw le i chi.